Ein cenhadaeth yw darparu hwb pwrpasol i gefnogi entrepreneuriaid eithriadol yng Nghymru sydd â syniadau uchel eu potensial. Rydym yn helpu arloeswyr technoleg a pheirianneg i greu mentrau beiddgar ac aflonyddgar sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas.
Mae Hwb Menter Cymru yn dod â’n mentora, ein cyllid a’n cymorth ymarferol atoch chi’n uniongyrchol, gan gyflymu eich llwybr at lwyddiant drwy rwydweithiau lleol, cenedlaethol a byd-eang yr Academi. Yn ogystal â bod yn bwynt cyswllt i ymuno â’n rhaglenni, Hwb Cymru fydd y canolbwynt ar gyfer digwyddiadau i sefydlwyr busnes, arweinwyr a Chymrodyr, a bydd yn ysgogi ein hymdrechion i gryfhau’r ecosystem ar gyfer arloesedd peirianneg ar hyd a lled y wlad.
Beth all Hwb Menter Cymru ei wneud i chi?
Creu a meithrin cymuned
Mewn cydweithrediad â’r Prosiect Agor IP, cynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae’r Academi wedi penodi Uwch Reolwr Menter, Mike McMahon, er mwyn:
- cynghori entrepreneuriaid technoleg ac arweinwyr busnesau bach a chanolig wrth wneud cais am gymorth yr Hwb Menter
- darparu pwynt cyswllt lleol ar gyfer prifysgolion yng Nghymru i helpu darparu rhaglenni cymorth yr Hwb Menter ledled y wlad
- meithrin cysylltiadau a chwarae rhan arweiniol yn ecosystem polisi a chyllid peirianneg Cymru
- cynnal rhaglen o ddigwyddiadau Hwb Menter yng Nghymru, gan gynnwys: sgyrsiau gan entrepreneuriaid technoleg sefydledig, digwyddiadau cyflwyno/cyflwyno gwrthdro, a sesiynau arbenigol ar IP, marchnata neu godi arian
- hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau â chyfoedion
- cysylltu peirianwyr o Gymru gyda gweithgareddau ymchwil, sgiliau ac amrywiaeth a chynhwysiant yr Academi
Mike McMahon, Uwch Reolwr Datblygu Busnes Cymru
Tîm Hwb Menter Cymru
Mae Mike McMahon yn cynrychioli tîm rhanbarthol Hwb Menter Cymru. Mae’r tîm yn cael ei arwain gan Gillian Gregg, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymgysylltu Rhanbarthol, sydd wedi’u lleoli ym Melfast yn Hwb Menter Gogledd Iwerddon.
Ynglŷn â Mike
Mike sy’n gyfrifol am gychwyn yr Hwb Menter yng Nghymru a bydd yn gweithio i wella ein rhwydwaith a darparu cymorth yr Academi i’r nifer o entrepreneuriaid technoleg a pheirianneg gwych ledled y wlad. Mae ei gefndir mewn rheoli prosiectau peirianneg, masnacheiddio o fewn amgylchedd Sefydliad Addysg Uwch a rheoli prosiectau ymchwil lefel uwch gyda busnesau bach a chanolig ledled Cymru.
Cysylltwch â Mike ar LinkedIn.
Sut i gyrraedd yma
Mae Hwb Menter Cymru wedi’i leoli yn Ne Cymru. Mae Mike ar gael ar gyfer cyfarfodydd rhithwir neu bersonol ledled Cymru ac ar hyn o bryd mae'n gweithio o gampws y Bae Prifysgol Abertawe.
Cyfeiriad:
Prifysgol Abertawe (Campws y Bae)
Ffordd Fabian
Twyni Crymlyn
Sgiwen
Abertawe SA1 8EN
Cael cyfarwyddiadau i deithio mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Am ragor o ymholiadau mynediad, ewch i wefan Prifysgol Abertawe neu cysylltwch â Mike ymlaen llaw.
Mae canolfan yr Academi yng Nghymru wedi’i hariannu mewn partneriaeth â phrosiect AgorIP mewn cydweithrediad â phartner arweiniol Prifysgol Abertawe, ynghyd â SAUau a Byrddau Iechyd ledled Cymru.