Ein cenhadaeth yw darparu canolbwynt pwrpasol i gefnogi entrepreneuriaid eithriadol yng Nghymru gyda syniadau potensial uchel. Rydym yn helpu arloeswyr peirianneg a thechnoleg i adeiladu mentrau beiddgar ac aflonyddgar sy'n cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas.
Mae Hwb Menter Cymru yn dod â’n mentora, cyllid a chymorth ymarferol yn uniongyrchol atoch chi, gan gyflymu eich llwybr at lwyddiant drwy rwydweithiau lleol, cenedlaethol a byd-eang yr Academi. Yn ogystal â bod yn bwynt cyswllt i ymuno â’n rhaglenni, bydd Hwb Cymru yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau ar gyfer sylfaenwyr busnes, arweinwyr a Chymrodyr, a bydd yn llywio ein hymdrechion i gryfhau’r ecosystem ar gyfer arloesi peirianyddol ledled y wlad.
Beth all Hwb Menter Cymru ei wneud i chi?
Creu ac adeiladu cymuned
Mewn cydweithrediad â Phrosiect AgorIP, cynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae’r Academi wedi penodi Uwch Reolwr Datblygu Busnes, Mike McMahon, i:
- gynghori entrepreneuriaid technoleg ac arweinwyr BBaCh ar sut i wneud cais am gymorth yr Hwb Menter
- darparu pwynt cyswllt lleol ar gyfer prifysgolion yng Nghymru i helpu cyflwyno rhaglenni cymorth Hwb Menter ledled y wlad
- adeiladu cysylltiadau a chwarae rhan flaenllaw yn ecosystem polisi a chyllid peirianneg Cymru
- cynnal rhaglen o ddigwyddiadau’r Hwb Menter yng Nghymru, gan gynnwys: sgyrsiau gan entrepreneuriaid technoleg sefydledig, digwyddiadau gwerthu/gwerthu cildro, a sesiynau arbenigol ar eiddo deallusol, marchnata neu godi arian
- hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cyfoedion
- cysylltu peirianwyr yng Nghymru â gweithgareddau ymchwil, sgiliau ac amrywiaeth a chynhwysiant yr Academi
Tîm Hwb Menter Cymru
Mae Mike McMahon yn cynrychioli tîm rhanbarthol yr Hwb Menter yng Nghymru. Arweinir y tîm gan Gillian Gregg, Pennaeth Ymgysylltu Rhanbarthol, sydd wedi'i lleoli yn Belfast yn Enterprise Hub Gogledd Iwerddon.
Ynglŷn â Mike
Mae Mike yn gyfrifol am sefydlu’r Hwb Menter yng Nghymru, a bydd yn gweithio ar wella ein rhwydwaith a darparu cefnogaeth yr Academi i’r llu o entrepreneuriaid peirianneg a thechnoleg Cymreig rhagorol ledled y wlad. Mae ei gefndir mewn rheoli prosiectau peirianneg, masnacheiddio yn yr amgylchedd SAU a rheoli prosiectau ymchwil lefel uwch gyda busnesau bach a chanolig ledled Cymru.
Cysylltwch â Mike ar LinkedIn.
Sut i gyrraedd yma
Mae Hwb Menter Cymru wedi’i leoli yn Ne Cymru. Mae Mike ar gael ar gyfer cyfarfodydd rhithwir neu bersonol ledled Cymru ac ar hyn o bryd mae'n gweithio o gampws y Bae Prifysgol Abertawe.
Cyfeiriad:
Prifysgol Abertawe (Campws y Bae)
Ffordd Fabian
Twyni Crymlyn
Sgiwen
Abertawe SA1 8EN
Cael cyfarwyddiadau i deithio mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Am ragor o ymholiadau mynediad, ewch i wefan Prifysgol Abertawe neu cysylltwch â Mike ymlaen llaw.